porthi dre logo without text

Creadigrwydd Bob Nos Fercher

Hafan > Newyddion > Creadigrwydd Bob Nos Fercher

Ffilmio, Bwyd, Dronau a Hwyl

Dros bythefnos ym Mhorthi Dre, daeth y Clwb Ieuenctid yn set ffilmio llawn hwyl ac egni – diolch i weithdy arbennig gydag Academi Sgrin, Prifysgol Bangor ac Owain Llyr, y gwneuthurwr ffilmiau.

Cafodd plant 11–15 oed gyfle i ddefnyddio camerâu, meicroffonau boom ac hyd yn oed ddronau i greu eu ffilmiau eu hunain. Fe ddysgodd pawb sut i ddal sain, tynnu lluniau o'r awyr a dod â'u syniadau'n fyw ar y sgrin.

I orffen y prosiect, aeth y grŵp draw i Stiwdio Aria yn Llangefni ar 30 Ebrill – lle cawson nhw gip ar sut mae ffilmiau’n cael eu golygu’n broffesiynol.

Bydd y ffilm a grewyd yn cael ei dangos yn y Clwb Ieuenctid wythnos nesaf – ac rydyn ni methu aros i’w rhannu!

Rydyn ni’n credu mewn creadigrwydd. Mae’n rhoi hyder i blant, yn meithrin sgiliau newydd ac yn cynnig lle diogel i fod yn nhw eu hunain.

Mae’r Clwb Ieuenctid yn rhedeg bob Nos Fercher rhwng 6–8yh – gyda phryd poeth am ddim, lle croesawgar, a gweithgareddau gyda grwpiau ffilm, artistiaid, grwpiau syrcas a llawer mwy.

Croeso cynnes i bob plentyn – ac rydyn ni wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno yn yr hwyl.


Pob Eitem Newyddion