porthi dre logo without text

Prosiect cerdd newydd ‘Cofi Miwsig’

Hafan > Newyddion > Prosiect cerdd newydd ‘Cofi Miwsig’

Prosiect cerdd newydd ‘Cofi Miwsig’ yn taro’r nodyn cywir diolch i Anthem Cymru

Mae Porthi Dre yn falch iawn o gyhoeddi ei bod wedi derbyn grant o £7,500 gan Gronfa Gerdd Anthem Cymru drwy’i chynllun Atsain, sydd wedi ei gefnogi gan Youth Music a chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl. Bydd y cyllid yn cefnogi lansiad Cofi Miwsig, prosiect cerddoriaeth cyffrous i bobl ifanc 11–15 oed yng Nghaernarfon.

Bydd y sesiynau wythnosol am ddim yn cael eu cynnal bob nos Fercher yn Hwb Cymunedol Porthi Dre, gan roi cyfle i bobl ifanc fwynhau cyfansoddi, recordio, gwneud beatiau a pherfformio mewn amgylchedd creadigol, hwylus a chefnogol.

Dywedodd Cai Samuel, Cydlynydd yr Hwb ac yn raddedig mewn cerddoriaeth:

“Mae cerddoriaeth yn ffordd wych i helpu pobl ifanc i adeiladu hyder, mynegi eu hunain a darganfod diddordebau newydd. Dwi’n gwybod yn bersonol faint wnaeth o helpu fi yn tyfu i fyny, a hoffwn i weld y genhedlaeth nesaf yn cael yr un budd. Dwi’n gwybod fyswn i 'di cael gwerth mawr o gyfle fel hyn pan o’n i yn yr un oed.”

Bydd y prosiect yn dechrau’r gwanwyn hwn ac mae’n agored i bobl ifanc 11–15 oed o’r ardal, beth bynnag fo’u profiad neu gefndir cerddorol.

Wedi’i ariannu gan Gronfa Gerdd Anthem Cymru drwy’i chynllun Atsain. Mae hyn wedi’i gefnogi gan fuddsoddiad gan Youth Music, diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl.

poster dathly cyllid

Pob Eitem Newyddion