porthi dre logo without text

Amdanom

Hafan > Amdanom

CEFNDIR PORTHI DRE

Mae Porthi Dre wedi’i seilio ar dair gweithgaredd sylfaenol – Rhannu Bwyd, Ailgylchu Dillad a Darparu Prydau Bwyd. Dyma gefndir y tair gweithgaredd:

Rhannu Bwyd

Ymunwyd â chynllun FareShare Tesco rai blynyddoedd yn ôl, pan oedd Cegin Cofi yn casglu bwyd dros ben o siop Tesco yn y dre, ac yn ei ddosbarthu o Tŷ Peblig yn bennaf. Adeg Covid, ehangwyd y trefniant i dderbyn bwyd dros ben bob prynhawn dydd Mercher. Roedd hwn yn cael ei ddosbarthu’n ganolog o Ellesmere Port, ac roedd grantiau llywodraeth a chyfraniadau unigolion yn talu am y gwasanaeth hwn. Gydol y pandemig, bu criw ymroddedig o wirfoddolwyr yn pecynnu’r bwyd yma, a’i ddosbarthu o ddrws i ddrws ddwywaith yr wythnos, gan geisio sicrhau darpariaeth deg drwy’r dref i gyd. Doedd dim modd rhagweld beth oedd yn cael ei gynnig, felly roedd y pecynnau’n gallu amrywio’n sylweddol o wythnos i wythnos!
Pan ddechreuodd amodau Covid lacio, dechreuwyd dosbarthu’r bwyd yma’n rhad ac am ddim tu allan i siop O Law i Law ar Stryd Llyn bob prynhawn dydd Mercher a bob bore dydd Sadwrn. Byddai’r gwirfoddolwyr hefyd yn mynd rownd tai ar y dydd Sul, os oedd mwy yn cael ei gynnig. Parhaodd y ddarpariaeth yma tan fis Awst 2022, pan ddechreuwyd dosbarthu o gartref newydd, sef Tŷ Seiont.


Ailgylchu Dillad

Adeg y pandemig, pan oedd cyflogau rhai’n cael eu torri, penderfynwyd ymchwilio i’r posibilrwydd o gasglu dillad, offer a theganau plant a babanod ail law, er mwyn helpu teuluoedd. Yn ogystal byddai hyn yn helpu’r amgylchedd drwy ail-ddefnyddio nwyddau oedd dim blewyn gwaeth. Cymerodd Cyngor Tref Caernarfon yr awenau yn hyn o beth, ac fe sicrhawyd grantiau i sicrhau eiddo ar les yn Stryd Llyn i sefydlu siop a’i galw’n O Law ei Law.
Yn fuan iawn, gwelwyd bod galw mawr am ddarpariaeth o’r fath, ac mae’r siop wedi dod yn gaffaeliad mawr i’r dre. Ceir cydweithrediad efo ymwelwyr iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chymdeithasau ffoaduriaid i sicrhau bod cymorth am ddim yn cael ei gynnig i bobl anghenus.
Mae haelioni pobl Caernarfon wrth gyfrannu nwyddau i’r siop yn anhygoel, ac mae tîm o wirfoddolwyr parod eu cymwynas ar gael i helpu rhedeg y siop dan arweiniad rheolwr.


Darparu Prydau bwyd

Pan ddechreuodd y cyfnod clo, penderfynodd criw o wirfoddolwyr fynd ati i ddarparu un pryd poeth yr wythnos i bobl mewn angen. Dechreuodd y cynllun drwy guro drysau yn gofyn am gwsmeriaid, ond tyfodd i ddarparu cynifer â 750 o brydau bob wythnos. Parhaodd Porthi Pawb i fwydo oedolion tan 03/06/21 a dros gyfnod y cynllun, darparwyd 19,402 o brydau bwyd a phwdin i oedolion a 2,899 o brydau a phwdin i blant. Sylweddolwyd bod gwir angen darpariaeth o’r fath yng Nghaernarfon, ac roedd y criw gwirfoddol a oedd y tu ôl i Porthi Pawb yn benderfynol o ganfod ffordd o barhau â’r ddarpariaeth.


TŶ SEIONT

Tŷ Seiont ydi cartref Porthi Dre, hwb cymunedol Caernarfon. Mae ystafelloedd ar gael i’w llogi gan fudiadau sy’n cyfrannu at lesiant y gymuned leol. Os oes rhywun eisiau defnyddio ystafell yn yr adeilad, dylid cysylltu gyda Anne, rheolwr prosiect Porthi Dre (01286 532222; desk.porthidre@outlook.com. Mae Swyddfa’r Harbwrfeistr wedi’i lleoli’n barhaol yn Tŷ Seiont hefyd.


Rhannu Sgran

Cynllun ydi hwn sy’n darparu pryd poeth yn rhad ac am ddim rhwng 12:30 a 2:00 bob dydd Mawrth a dydd Iau. Mae Porthi Dre yn cyflogi cogydd, Mark White, sy’n gweithio dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau. Bwriedir ehangu’r cynllun hwn yn y dyfodol, i gynnig Croeso Cynnes yn Tŷ Seiont rhwng 6:00 a 9:00pm, efo pryd poeth. Bydd yn gyfle i bobl ddod i gael rhywbeth i’w fwyta, cwmni a lle cynnes i dreulio eu gyda’r nos.


FareShare

Bob dydd Mercher, bydd cyflenwad o fwyd yn cyrraedd o depo FareShare yn Ellesmere Port, a bydd gwirfoddolwyr yn ei osod allan yng nghyntedd Tŷ Seiont. O 3:00pm ymlaen, bydd bobl yn cyrraedd i weld pa fwyd sydd ar gael, a chynigir cawl cartref a rôl ffres iddynt. Am 4:00, bydd y bwyd yn cael ei gynnig iddynt am £3 y bag. Un bag mae pob person yn ei gael.


Gwirfoddolwyr

Mae angen gwirfoddolwyr ar bob agwedd o weithgarwch Porthi Dre. Os oes rhywun yn dangos diddordeb, dylid cymryd eu manylion cyswllt, a’u hanfon at desk.porthidre@outlook.com