porthi dre logo without text

Clwb Hwyl

Hafan > Gweithgareddau > Clwb Hwyl

Mae Clwb Hwyl yn cael ei gynnal rhwng 11 a 3 ar ddydd Llun, ac mae’n gyfle i gymdeithasu dros bryd o fwyd poeth a phwdin gan ein cogydd, Geraint. Mae’r clwb yn agored i bobl hŷn a phobl gyda chyflyrau iechyd, a’r bwriad ydi sicrhau nad oes neb yng Nghaernarfon na’r dalgylch yn unig neu’n ynysig.

Mae cwmpeini a sgwrs dros banad yn codi calon pawb!

Yn ddiweddar, daeth Ysgol Pendalar draw i ganu ambell gân dros ginio 'Dolig!