porthi dre logo without text

Swyddi

Hafan > Swyddi

Swyddog Ieuenctid

Teitl y Swydd: Swyddog Ieuenctid
Oriau: Hyd at 10 awr yr wythnos
Cyflog: £13.50 yr awr
Hyd y Contract: 26 wythnos
Lleoliad: Porthi Dre, Caernarfon

Pwrpas y Rôl

Wedi’i hariannu gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, nod y rôl yw arwain ac arloesi gweithgareddau ieuenctid sy’n cyfrannu at ddiogelwch cymunedol, atal troseddu ac adeiladu dyfodol cadarnhaol i bobl ifanc rhwng 11–15 oed. Bydd y rôl yn gweithio’n agos gyda chymuned Caernarfon, gan greu amgylchedd diogel, cefnogol a chynhwysol i bobl ifanc allu mynegi eu hunain, cymryd rhan, ac adeiladu eu gwydnwch.

Dyddiad cau ar 6/10/2025 am 3:00pm. Bydd angen gyrru llythyr cyfr + CV at desk.porthidre@outlook.com.

Disgrifiad Swydd