porthi dre logo without text

Gwirfoddoli

Hafan > Gwirfoddoli

Mae angen gwirfoddolwyr ar bob agwedd o weithgarwch Porthi Dre. Os hoffech chi roi rhan o’ch amser i wella bywydau pobol yng Nghaernarfon, llenwch y ffurflen isod neu anfonwch e-bost i gwionroberts@porthidre.cymru

Gen Porthidre llawer o gyfleoedd gwahanol i wirfoddoli. Fedrwch wirfoddoli gyda:

Poster gwirfoddolwyr cegin Porthi Dre

Cegin Gymunedol: Gweithio i baratoi a choginio bwyd at ein digwyddiadau. (Cyfleoedd ar gael Dydd Llun i Ddydd Iau)

Poster i Wirfoddolwyr Desg Dderbyn y Ganolfan Gymunedol

Blaen tŷ a glanhau: Croesawu a helpu pobl wrth iddynt gyrraedd, a chadw’r adeilad yn daclus. (Cyfleoedd ar gael Dydd Llun i Ddydd Gwener)

Poster Clwb Saer Coed Gwirfoddol

Caban Y Cofis: Adeiladu a thrwsio dodrefn i bobl, a thipyn o waith cynnal a chadw ar yr adeilad. (Cyfleoedd ar gael dydd Mercher a’r Penwythnos)

Poster Gweithgareddau Gwirfoddoli

Clwb Pobl Ifanc: helpu glanhau, bwydo, a threfnu adloniant i’r bobl ifanc Caernarfon (Cyfleoedd ar gael ar ddydd Mercher)

Poster Grantiau Gwirfoddolwyr

Tîm Ceisiadau Grantiau/Gwaith Gweinyddol: Gweithio i ddarganfod grantiau addas i Porthi Dre a help i ni ddatblygu ac ehangu ein gwasanaethau. (Cyfleoedd ar gael trwy’r wythnos)

Mae Porthi Dre yn ddiolchgar iawn i bawb sy’n rhoi o’u hamser i wirfoddoli gyda ni. Yn ddiweddar trefnwyd parti i gydnabod eu gwaith anhygoel. Mwynhewch y lluniau.

Ymunwch â Phorthi Dre fel Aelod Bwrdd neu Ymddiriedolwr!

Mae Porthi Dre yn chwilio am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’n Bwrdd fel Ymddiriedolwyr neu Aelodau Bwrdd. Os ydych chi’n credu mewn cefnogi’r gymuned ac eisiau chwarae rhan allweddol yn siapio ein gwaith yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Fel Aelod Bwrdd neu Ymddiriedolwr, byddwch yn helpu i arwain ein helusen, gan sicrhau ein bod yn parhau i dyfu a chael effaith barhaol. Does dim angen profiad blaenorol—dim ond parodrwydd i rannu eich amser, sgiliau a syniadau.

Diddordeb? Darllenwch y ddogfen lawn a chysylltwch â ni!

PECYN CAIS YMDDIRIEDOLWYR AC AELODAU BWRDD GWEITHREDOL

Ffurflen Cofrestru

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar

pedair dynes yn eistedd yn cael diod
 
 
  • pedair dynes yn eistedd yn cael diod
  • tri o ddynion yn sefyll yn yfed gwin a gwenu
  • people sat in the porthi dre foyer having drinks
  • dau ddyn a dwy ddynes yn eistedd yn cael gwin ym mharti porthi dre
  • dynes a tri dyn yn sefyll yn yfed gwin yn y parti
  • pedair dynes yn gwenu yn yfed gwin yn y parti
  • tair dynes a dyn yn gwenu yn porthi dre
  • collage o'r bwyd yn y parti yn porthi dre

Ffurflen Gwirfoddoli