Gwerthoedd
Iechyd a Lles
Yn ein hwb cymunedol yn Nhŷ Seiont, Caernarfon mae gweithgareddau’n cael eu cynnal bob wythnos sy’n hyrwyddo iechyd a lles pobl y dre. O’r gweithgareddau cadw’n heini i bobl hŷn ar ddyddiau Llun, i’r prydau bwyd maethlon sy’n cael eu paratoi gan ein cogydd, mae hyrwyddo lleisnat yn ganolog i’n gwaith.
Mynd i’r afael â thlodi
Mae atal neu leddfu tlodi yng Nghaernarfon a’r cyffiniau drwy ddarparu bwyd ac eitemau hanfodol eraill i unigolion mewn angen yn greiddiol i’n gwaith. Rydym hefyd yn croesawu asiantaethau allanol megis Cymru Gynnes i Porthi Dre i ddarparu gwybdoaeth a chymorth am ddim.
Chwalu unigrwydd
Mae unigrwydd yn broblem yn ein cymunedau, yn enwedig ymhlith y to hŷn. Boed hynny drwy’n Clwb Hwyl, Clwb Seiont, clwb gweu Pwytho Dre neu brynhawniau ‘paned a Chacen’, rydym yn darparu cyfleoedd gwerthfawr i bobl o bob cenhedlaeth ddod am sgwrs a chwmpeini mewn adeilad cynnes.
Y Genhedlaeth nesaf
Mae Clwb Ieuenctid Porthi Dre yn un o’n prosiectau pwysicaf. Mae’n darparu gofod diogel i bobl ifanc gymdeithasu, mynegi eu hunain yn greadaigol, meithrin sgiliau a chael pryd poeth.
Yr Amgylchedd
Trwy’n cynlluniau sy’n gwneud defnydd o fwyd dros ben i siop O Law i Law sy’n gwerthu dillad a thegannau plant ail-law, mae Porthi Dre yn ei gwneud yn haws i bobl y dref leihau eu hôl-troed carbon.
Cydlyniant cymunedol
Mae’r cyfleoedd gwrifodddoli mae Porthi Dre y neu cynnig yn rhoi cyfle gwerthfawr i unigolion o genehedlaethau gwahanol ddod i adnabod a deall ei gilydd ei well. Mae pontio’r cenedlaethau yn rhan allweddol o weledigaeth Porthi Dre.