Ein Hanes
Hwb cymunedol yng nghanol tref Caernarfon sy’n mynd i’r afael â thlodi, gwastraff bwyd, ac unigrwydd yw Porthi Dre. Mae’r amserlin isod yn nodi rhai o gerrig milltir pwysicaf y prosiect.
Fareshare Caernarfon
Cymuned Caernarfon yn ymuno â chynllun FareShare Tesco. Roedd cynllun Cegin Cofi yn derbyn bwyd dros ben o Tesco, ac yn ei ddosbarthu o Tŷ Peblig ar stad Ysgubor Goch yn y dref.
Covid a Porthi Pawb
Yn ystod Covid, roedd bwyd dros ben yn dod gan gynllun Faresahre yn ganolog o Ellesmere Port. Trwy gydol y pandemig, roedd grŵp ymroddedig o wirfoddolwyr yn pacio’r bwyd, ac yn ei ddosbarthu o ddrws i ddrws ddwywaith yr wythnos ledled y dref.
Hefyd, dechreuon ni ddarparu pryd poeth yr wythnos i bobl mewn angen. Dechreuodd y cynllun drwy guro ar ddrysau i chwilio am gwsmeriaid, ond tyfodd i ddarparu cymaint â 750 o brydau bob wythnos. Parhaodd Porthi Pawb i fwydo oedolion tan fis Mehefin 2021 a thros y cyfnod hwnnw darparwyd 19,402 o brydau a phwdin i oedolion a 2,899 o brydau a phwdinau i blant. Sylweddolwyd bod dirfawr angen darpariaeth o’r fath yng Nghaernarfon, ac roedd criw gwirfoddol Porthi Pawb yn benderfynol o ddod o hyd i ffordd i barhau â’r ddarpariaeth.
Ac felly mae’r cynllun yn parhau i ddarparu pryd poeth am ddim rhwng 12:30 a 2:00 bob dydd Mawrth a dydd Iau yn ein cartref newydd yn Nhŷ Seiont.
Pan ddechreuodd cyfyngiadau Covid lacio, dechreuwyd dosbarthu bwyd am ddim y tu allan i siop O Law i Law ar Stryd Llyn bob prynhawn Mercher a phob bore Sadwrn. Byddai’r gwirfoddolwyr hefyd yn mynd o amgylch tai ddydd Sul os oedd mwy na’r arfer o fwyd. Parhaodd hyn tan fis Awst 2022, pan ddechreuwyd danfon nwyddau o’n cartref newydd yn Tŷ Seiont.
Agor O Law i Law
Yn ystod y pandemig roedd nifer yn wynebu sefyllfa ariannol anodd, felly fe wnaethon ni benderfynu dechrau casglu dillad, offer a theganau plant a babis ail law i deuluoedd oedd yn ei chael hi’n anodd. Roedd hyn hefyd yn helpu’r amgylchedd drwy ailddefnyddio nwyddau o ansawdd uchel.
Fe wnaeth Cyngor Tref Caernarfon arwain ar y prosiect hwn, a sicrhawyd grantiau er mwyn cael prydles ar eiddo ar Stryd Llyn i sefydlu siop O Law i Law. Mae’r siop yn parhau f od yn gaffaeliad mawr i’r dref. Rydym yn cydweithio gydag ymwelwyr iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac elusennau i ffoaduriaid i sicrhau bod cymorth am ddim yn cael ei gynnig i bobl mewn angen. Mae haelioni pobl Caernarfon wrth gyfrannu nwyddau i’r siop yn anhygoel, ac mae tîm o wirfoddolwyr gweithgar wrth law i helpu i redeg y siop dan arweiniad y rheolwr, Ellen Owen.
Agor Tŷ Seiont
Agorwyd hwb cymunedol yn adeilad Tŷ Seiont yng Nghaernarfon er mwyn canoli holl wasanaethau a chynlluniau Porthi Dre. Mae’r hwb bellach yn gartref i’n holl weithgareddau, ac mae ystafelloedd ar gael i’w llogi yno hefyd.
Dechrau Paned a Chacen a’r Clwb Ieuenctid
Dechrau’r Clwb Henod