Caban y Cofis
Hafan > Gweithgareddau > Caban y Cofis
Mae’r clwb yma’n cwrdd bob bore Mercher, a dyma fersiwn Caernarfon o’r Men’s Sheds, sef gweithdai cymunedol lle gall dynion gymdeithasu dros eu crefft a gwaith llaw. Sefydlwyd Caban y Cofis ar ôl i Men’s Shed Caernarfon ar Stad Cibyn gau.
Mae gan y criw gynlluniau cyffrous ar gyfer datblygu yn y blynyddoedd nesaf.
Oes gennych chi diddordeb mewn mainc?
Mae Caban y Cofis wedi bod yn creu rhai drwy gydol yr haf! Gyda rhodd o £100 i Porthi Dre, bydd un o’r meinciau hyn yn eich dwylo chi!
Oes gennych chi ochr fetel neu hen fainc sydd angen trwsio?
Dewch a nhw atom ni yn Porthi Dre - byddem wrth ein bodd yn eich helpu!
Mae Caban y Cofis wedi cael haf llwyddiannus, ac ar ol gwaith mesur, torri, peintio a chreu, rydym wedi cwblhau set o feinciau. Trwy ail-gylchu’r defnyddion yma mae Caban y Cofis wedi cyfrannu at economi cylchol lleol Caernarfon. Fydd Caban y Cofis yn parhau ar y meinciau, a’n dechrau ar prosiect i ail-wneud biniau yn yr ardal.
Ffon: 01286 532222
E-bost: desk.porthidre@outlook.com
- Mainc wedi drwsio a'i peinto mewn lliw brown
- Mainc wedi drwsio a'i peintio mewn lliw coch a gwyrdd i neud rhosyn gyda lliw gwyn yn y cefndir
- Mainc wedi drwsio a'i peintio mewn lliw coch gyda pren yn pwyso ar y wal tu ol i'r fainc
- Mainc wedi drwsio a'i peintio mewn lliw brown gyda pren yn pwyso ar y wal tu ol i'r fainc



