Clwb Seiont
Hafan > Newyddion > Clwb Seiont
Clwb Wythnosol Seiont i bobl dros 60 oed
Dydd Llun 10yb - 4yh yn Porthi Dre
Dydd Llun, Tachwedd 6ed, cynhaliwyd sesiwn gyntaf Clwb Seiont yn Tŷ Seiont. Clwb newydd ar gyfer pobl dros 60 oed ydi hwn, ac bydd gwahanol weithgareddau’n cael eu cynnig o wythnos i wythnos. Maent yn cynnwys sesiynau cerddorol, celf a chrefft, hel atgofion, yoga cadair i enwi dim ond rhai! Cafwyd ymateb ardderchog i’r sesiwn gyntaf, efo 14 o bobl yn ymuno yn yr hwyl. Cafwyd paned a bisged groesawu pawb i ddechrau, wedyn cafwyd cyflwyniad gan Anne Evans, Rheolwr Porthi Dre, yn adrodd hanes sefydlu’r Hwb newydd sy’n prysur ddod yn adnodd pwysig iawn yn y dre. Wedyn, cafodd pawb ginio poeth a phwdin ffres wedi’u paratoi gan gogydd Porthi Dre, Geraint Thomas. Ar ôl cinio, cafwyd sesiwn hwyliog o ganu dan arweiniad Canolfan Gerdd William Mathias.