porthi dre logo without text

‘Cofis Greadigol’‘

Hafan > Newyddion > ‘Cofis Greadigol’‘

Arian wedi’i sicrhau ar gyfer prosiect celf ieuenctid ‘Cofis Greadigol’

Mae Porthi Dre yn falch iawn o gyhoeddi ein bod wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gwendoline & Margaret Davies i redeg ein prosiect Cofis Greadigol.

Bydd Cofis Greadigol yn cynnig sesiynau celf wythnosol am ddim i blant 11–15 oed, ar nos Fercher, o fis Medi 2025 hyd at y Flwyddyn Newydd. Dan arweiniad artistiaid lleol profiadol, bydd y sesiynau’n rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu creadigrwydd, dysgu sgiliau newydd a chysylltu ag eraill mewn awyrgylch gyfeillgar a chefnogol.

Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Gwendoline & Margaret Davies am eu cefnogaeth i wireddu’r prosiect hwn.

elusen gwendoline logo

Pob Eitem Newyddion