porthi dre logo without text

Diolch i Comic Relief!

Hafan > Newyddion > Diolch i Comic Relief!

Diolch i Comic Relief am ein Grant Datblygu Sefydliadol!

Rydyn ni wrth ein boddau yn gallu rhannu'r newyddion bod Porthi Dre wedi derbyn grant Datblygu Sefydliadol gan Comic Relief a Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan WCVA (Cymorth Trydydd Sector Cymru).

Bydd y grant hael hwn yn galluogi ni i dyfu fel sefydliad drwy ariannu swydd newydd o’r enw Swyddog Ymchwil a Datblygu. Bydd y rôl hon yn canolbwyntio ar ddatblygu partneriaethau, sicrhau arian ychwanegol, ac arwain ein gwaith tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Rydyn ni am gryfhau ein heffaith yn lleol yma yng Nghaernarfon ac yn ehangach – yn enwedig trwy brosiectau sy’n taclo tlodi, hybu mynediad at addysg a dysgu creadigol, ac yn dod â phobl at ei gilydd ar draws cenedlaethau.

Diolch o galon i Comic Relief, Llywodraeth Cymru a WCVA am gredu yn ein gwaith ac am fuddsoddi yn ein dyfodol. Rydym hefyd yn ddiolchgar dros ben i’n cymuned wych o wirfoddolwyr, partneriaid a chyfranogwyr—chi sy’n gwneud Porthi Dre yn bosib.

Ymunwch â ni
Os hoffech chi ymuno â’n gwaith fel gwirfoddolwr, cefnogwr neu gydweithredwr—cysylltwch â ni!
📧 desk.porthidre@outlook.com
🌐 www.porthidre.cymru
📱 @PorthiDre

cggc logo
logo ariennir gan comic relief
logo Llywodraeth cymru

Pob Eitem Newyddion