Menter Coginio Nici Beech
Hafan > Newyddion > Menter Coginio Nici Beech
Mae sesiynau coginio Nici Beech yn Porthi Dre yn canolbwyntio ar ddysgu sgiliau ymarferol a dod â'r gymuned ynghyd trwy fwyd. Yn hytrach na'n esbonio, bydd Nici yn rhannu popeth yn y fideo isod:
Fideo: Porthi Dre Bag 3 Pasta a Burgers efo isdeitlau
Roedd Nici yn Porthi Dre ddydd Mercher 23ain, yn paratoi prydau am ddim am 3:00pm, cyn y digwyddiad Rhannu Deg (Fareshare) am 4:00pm, lle roedd bagiau bwyd ar gael am £3.00 y bag.
Mae Rhannu Deg yn digwydd bob wythnos, gan gynnig bwyd fforddiadwy i'r gymuned. Os oes gennych ddiddordeb neu os hoffech ddysgu mwy am sut y gallwch gymryd rhan mewn hyn neu unrhyw un o'n prosiectau eraill, cysylltwch â ni ar 01286 532222.
Gallwch hefyd lawrlwytho PDF o ryseit Nici isod.
- Ryseitau Byrgyrs Smash (PDF)
- Ryseitau Pasta alla Norma (PDF)
- Ryseitiau Colslô Cartref (PDF)
Ymunwch â ni a cymryd rhan!
Diolch yn fawr iawn i Nici!