porthi dre logo without text

Pennod Newydd i Borthi Dre

Hafan > Newyddion > Pennod Newydd i Borthi Dre

Diolch i Chwaraewyr y Loteri Cod Post y Bobl

Diolch i chwaraewyr, mae’n breuddwyd yn tyfu

Rydyn ni’n hapus iawn i rannu’r newyddion fod Porthi Dre wedi derbyn cyllid (£25,000!) gan Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post, a hynny diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl!

Bydd y gefnogaeth yma’n ein galluogi i barhau i dyfu’n gwaith yma yng Nghaernarfon—ehangu sesiynau cymunedol, rhoi llwyfan i leisiau lleol, a chreu cyfleoedd newydd i bawb sy’n rhan o’r dref.

Boed chi’n galw heibio am baned, yn cymryd rhan mewn gweithdy, neu’n cyfrannu fel gwirfoddolwr—mae’r prosiect yma’n perthyn i chi. Mae’r arian yn golygu y gallwn barhau i gynnal gweithgareddau sy’n uno’r gymuned, cefnogi iechyd meddwl, a dathlu creadigrwydd lleol.

Logo Postcode Lottery
Logo Postcode Community Trust

Pob Eitem Newyddion