Agoriad Swyddogol
Hafan > Newyddion > Agoriad Swyddogol
Agoriad Swyddogol
Dydd Gwener, Hydref 20, cynhaliwyd Agoriad Swyddogol Porthi Dre. Cafwyd cyflwyniadau cryno gan Cai Larsen (Cadeirydd Porthi Dre), Anne Evans (Rheolwr y Prosiect), Alun Roberts (Gelli), Alun Wyn Jones (Dirprwy Glerc), Anna Jane, Dawn Lynne Jones, Ann Hopcyn, Kenny Khan a Geraint Thomas (cogydd) yn olrhain datblygiad y ganolfan hynod hon a darparwyd gwledd gan Geraint Thomas a’i wirfoddolwyr brwdfrydig a di-flino. Daeth rhyw hanner cant o bobl ynghyd i glywed am hanes Porthi Dre, a’r neges yn glir oedd bod croeso cynnes a chymorth parod ar gael yn Porthi Dre bob amser.
Diolch i Arwyn Herald am y lluniau