Dathlu Wythnos Wyddoniaeth
Hafan > Newyddion > Dathlu Wythnos Wyddoniaeth
Dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain gyda Sbarduno yn Porthi Dre!
Wnaethon ni ddathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain yr wythnos hon efo dwy sesiwn wych efo Sbarduno, yn dod â hwyl gwyddoniaeth i bob oed yn y gymuned!
Ar Fawrth 10fed, cawson aelodau Clwb Hwyl (60+) weithdy gwyddoniaeth gwych fel rhan o’u sesiwn wythnosol. Mae Clwb Hwyl yn le i bobl hŷn ddod at ei gilydd, mwynhau pryd o fwyd am ddim a chymryd rhan mewn gweithgareddau difyr—ac roedd yr wythnos hon yn un arbennig! Awen o Sbarduno arweiniodd y sesiwn, yn dangos arbrofion difyr a sbarduno dipyn o chwilfrydedd a chwerthin.
Wedyn, ar Fawrth 12fed, roedd tro’r Clwb Ieuenctid i gael sbri! Cawson y bobl ifanc gyfle i wneud lampau lafa, ac arbrofi efo chromatograffi—i gyd wrth ddysgu’r wyddoniaeth y tu ôl iddyn nhw. Fel bob wythnos, roedd pryd o fwyd am ddim a chyfle i drio rhywbeth newydd. Awen arweiniodd y sesiwn eto, gan wneud y gwyddoniaeth yn hwyl ac ymarferol.
Diolch yn fawr i Awen a Sbarduno am ddod â gwyddoniaeth yn fyw yn Porthi Dre! Dwi’n meddwl bod ni gyd wedi dysgu rhywbeth newydd... ac wedi joio llond bol!